Cael i fewn i'r bag diraddol.

Ein bagiau cyntaf

Ein bagiau cyntaf

O'r dechrau mae wedi bod yn wreiddiol i ni ddefnyddio ffordd foesegol o bacio coffi. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau clywed am ein taith ac y bydd yn eich helpu i ddaeall pam y gwnaethom ddefnyddio'r pethau a wnaethom dros y blynyddoedd.

 

Y ddechrau, cyn i ni werthu ar stodinau ac mewn siopau, roedden ni'n gwerthu i fobl cyfarwydd. Ar y pryd roedd ffrindiau gennym hefo siop fferins ac yr oedd ganddynt lawer o jariau yn mynd yn wastraff. Felly, syniad da oedd i ni gymryd y jariau a'u llenwi hefo coffi. Y peth gwych am defnyddio’r jariau oedd i ni eu ail ddefnyddio neu cael ei ail gyrchu. Yn anfodus pan oedd hi'n amser i ni gychwyn gyda stondinau doedd y jariau ddim yn ddigon cynaladwy, roedd rhaid i ni edrych am ffordd arall i bacio’r coffi, yr ateb oedd i ddefnyddio bagiau.

 

Pan roedd hi’n amser edrych ar y math o fagiau oedd ar y farchnad i brynnu ar y pryd roedd hi’n pwysig i ni fod y bagiau mor foesegol ag sydd bosib. I gychwyn, beth mae bag meosegol yn edrych fel i ni, yr ymateb oedd i bopeth fynd yn ôl i’r ddear heb ei amharu a heb gadel unrhyw ddarn ar ôl, i gyflewni hwn oedd rhaid i’r bagiau fod yn diraddiadwy. Wrth i ni edrych ar y farchnad am fagiau roedd hi’n glir i weld os roedden ni’n am ddefnyddio’r bagiau yma fyddyn nhw yn fwy gostus na’r bagiau arferol.

 

Dros y daith yma mi fyddwn yn darganfod fod pob peth sy’n cael ei alw yn diraddiadwy ddim wedi ei greu yn gyfartal. Gyda hwn roedd pethau fel sut mae’r bag yn cadw’r coffi, os fydd hi’n diraddiadwy yn eich cartref neu yn fasnachol a'r faith bod yno gwestiynau am sut maent yn cael eu cynhyrchu.

 

Dros y blynyddoedd diwethaf yn ein taith drwy'r tirwedd, rydan ni wedi gweld nifer o newidiadau ynglyn a byd bagiau diraddiadwy, o'r technegol i wella eu ansawdd, i amddiffyn yr ansawdd i gynhyrchio y cynnwys, falfiau diraddol yw gwneud yn fwy effeithiol yw prynnu. Cewch weld fod yr holl resymau hyn yn dilyn.

  

IMAG0203.jpg

Detpak: Rebbit (Compostio).

Rhain oedd y bagiau cyntaf i ni eu defnyddio. Dewis oedd hwn ar y pryd am eu bod yn hawdd ac yn effeithiol yw prynnu. Yr unig beth oedd, roedd y bagiau ddim wedi'u cynhyrchu er mwyn coffi ond wedi eu datblygu yn fwy at ffa sych, haddau neu pethau o'r popydd. Roedd gan y bagiau dyddiad terfyn isel ac wedi eu cynhyrchu gan ddefnyddio papur Kraft a plastic o starts planhigion. Dros amser doedd y terfyn ddim yn ddigon da i gadw ansawdd y coffi mwy na 3 mis. Gyda’r rheswm hwn roedd hi’n amser i edrych os roedd bag gwell ar gael.

 

 
Enviropack: Biodegradable

Enviropack: Biodegradable

Enviropack: Bioddiriddiadwy.

Wedi i ni ddarganfod bagiau Enviropack, er eu bod nhw ddim yn wrthdeithiol roeddent yn ddiriddol ac heb ddim plastig traddodiadol yn eu cynhyrchiad. Oherwydd eu lluniad roedd y dyddiad terfyn yn uwch ac yn galluogi cadw ansawdd y coffi yn well ac am amser hirach. Am fod y terfyn mor dda, dechreuodd broblem newydd ddigwydd, roedd y bagiau yn enchwythu i fynnu fel balwn. Mae hwn yn digwydd oherwydd mae natur coffi i ollwng nwy CO2 ar ôl ei rhostio. Hefyd, ambell waith mae swm y nwy gymaint yn gallu creu pwysedd mor uchel i allu agor y bag a dinistrio bywyd silff y coffi. Nid hwn yn unig yw rheswm i ni beidio a defnyddio'r bagiau yma ond am eu bod wedi'u cymryd o ar y farchnad a'r bag nesa wedi cymryd eu lle.


Enviropack: Compostio.

Mae’r bagiau yma yn edrych yn debyg i’r Bioddiriddiadwy ond mae'n bosib eu compostio yn fasnachol. Rydan ni’n dal i ddefnyddio y bagiau yma yn ein offer fel 70g ac mae hwn yn cyfrangu fydd yr effaith o ollwng nwy yn lleihau.

https://www.enviropack.org.uk/compostable-products/bags-pouches/compostable-stand-up-pouches/70g-compostable-stand-up-pouches-with-zip-lock

 

 

Tekpak: Omnigradable.

Tekpak: Omnigradable

Tekpak: Omnigradable

I gychwyn, mae na ddau rheswm am i ni ddewis y bagiau yma. Yn gyntaf am eu bod yn ddiddarol ac yn ail, mae’r bagiau yma yn cael falf un-ffordd diraddol sy’n gallu cael gwared o’r nwy sy’n cael ei ollwng a yn cadw ansawdd y coffi yn dda.  

Mae’r bagiau yma yn annhebig i’r bagiau eraill hefyd oherwydd mae nhw wedi cael ei cynhyrchu gan ddefnyddio plastegau traddadiadol, ond oherwydd fod Tekpak yn casau gwastraf sydd yn tori lawr mae nhw wedi datblygu system sy’n gwneud y plastic traddadiadol i dori i lawr heb ddinistrio’r amgylchedd. Y system mae nhw wedi dod i fyny gyda yw i ddefnyddio ensymau yn y plastic i alluogi'r bactiria natiriol i dori'r plateg i lawr. Roedden ni yn ansicir am ddefnyddio nhw o achos y plastic traddodiadol sy’n cael ei ddefnyddio yn adeliadwaith y bag , ond serch hynnu maent wedi eu gwneud yn ddiraddol ac roeddent yn well na’r bagiu roedden ni defnyddio’n gynt.

Ar ôl tipyn o amser roedd yna broblem yn dechrau ymddangos,  doedd wâl y bag ddim digon cryf a roedd y bag yn hawdd i'w ddamwain. Hawdd oedd gwneud twll yn y bag os yn ei drin heb ofal neu gyda’r falf cyn rhoi y coffi i fewn i'r bag.

 https://tekpaksolutions.com/tekpak-solutions-the-omnidegradable-solution/

 
The Bag Broker: True bio

The Bag Broker: True bio

The Bag broker: True bio.

Am fod amser y bagiau cynt ar ben, dyma'r bagiau ryndi'n defnyddio ar hyn o bryd.

Wrth edrych unwaith eto am fagiau addas dyma ni'n darganfod rhein. Y penderfyniad yw defnyddio oedd yn gyntaf, gallwch eu compostio'n fasnachol ac yn eich cartref. Mae’n nhw yn defnyddio lluniaeth papur kraft a defnydd NMKE sydd wedi'i wneud o plasteg starts a taenfa main alwminiwm. Roedden ni'n ansicr am eu defnyddio oherwydd y darn o alwminiwm, ond maent wedi eu profi gan y TUV ac mi fyddent yn gyfeillgar i'r ddaear ac yn iawn i gartref compostio.

Un peth arall nad ydym wedi'i gynnwys yma, a yw'r bagiau yn gryfach na'r rhai olaf? Yr ateb yw hyn, mae lluniaeth y defnydd yn gryfach ac rydym yn hyderus yw defyddio ar ol gweld y cam-driniaeth y gallant ei gymryd, gan hynnu yn ddewis da.

https://www.thebagbroker.co.uk/product/250g-side-gusset-bag/?attribute_pa_color=natural-brown&attribute_pa_material=true-bio&attribute_pa_valve=with-valve
http://www.futamuragroup.com/en/divisions/cellulose-films/products/natureflex/metallised/

Ar ôl y storm

Ar ôl y storm

 Yn ychwanegol at bopeth a ddywedwyd hyd yn hyn, hoffem gydnabod ein bod hefyd wedi edrych i mewn i'r posibilrwydd o symud o fagiau diraddiadwy i fagiau ailgylchadwy ar hyd y ffordd. Y canlyniad yw ein bod wedi penderfynu aros gyda diraddiadwy oherwydd nad oes modd ailgylchu plastigau ailgylchadwy ledled y DU gan ei fod yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a'r rheolau sy'n berthnasol.


Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen am ein taith yn nhirwedd gyfnewidiol pacio moesegol hyd yn hyn ond yn dawel eich meddwl, er ein bod wedi dod o hyd i fagiau sy'n cwrdd â'n safonau, y byddwn yn edrych yn barhaus am atebion gwell a mwy moesegol.