Hidlo drwy eich dillad rhan un

IMG_20200424_085422.jpg

Ar ôl un neu ddau o wythnos dyma’r canlyniadau o defnyddio dillad i hildo eich coffi.

 

Y rheswn am yr oedi y post yma yw oherwydd y tro cyntaf oeddan ni’n ei drio roedd y blas suddol, blodol cemegol yn cryf iawn (Oedd possib yfed y cemegau yma ddim yn dda i fy iechid). Roedden ni wedyn yn mwydio I trio cael digon o’r cemegau allan.

 

IMG_20200428_112945.jpg

Mae yna tair o technegau oedden ni yn tio gyda hein. Yn y post yma fyddan ni yn defnyddio côn hidlo a’r mesurau yma:

 

15g coffi wedi’i falu’n ganolig

200ml dŵr

 

Yn gyntaf, Roeddan ni’n defnyddio yr hosan a wedyn y crys polo. Unwaith roedd y defnydd wedi rhoi yn y côn hidlo rhowch y coffi i fewn ir hidl dechreuwch rhoi y ddŵr ar y coffi a bod yn ofalus i cadw y hidl yn ei lle a’r cadw y dŵr heb mynd dros y côn.

IMG_20200503_130530.jpg

 

Yn y Gwpan!

Roedd y ddwy fath o defnydd yn gweithio’n dda a y pethau oedden yn poeni am dan oedd darnau coffi yn dod drwyadd a dal cael y blas cemegol cryf ynddi, a diolch byth doedd yno ddim darnau coffi yn y cwpan a gallwn cael blas y coffi yn well ond oedd yno tipin bach or blas cemegol yn dal dod drwyadd. Y fath o dillad oedd yn fwy haws i’w weithio gyda oedd yr hosan dros y crys polo.

Y peth ola, os ydach chi eisiau ceisio ail greu y techneg yma rhaid cymryd amser i sicirhau fydd yno cemegau ddrwg dal yn y defnydd.